• English
  • Argraffu
  • Marciwch
  • E-bost
  • Son wrth ffrind

Traed Moch

  • Pwy Ydym Ni

    Y mae anifeiliaid TRAED MOCH wedi eu geni a’u magu adref a’i pesgi gyda’r grawn a’r llysiau gorau gennym ni.

Bwyd gonest

A ydych chwi yn gwybod beth ydi gwir darddiad eich cig moch, selsig a phorc?
A ydych chwi yn gwybod sut y magwyd a sut fywyd gafodd y mochyn cyn cyrraedd y lladd-dy?

Pan yn prynu ein cynnyrch byddwch yn dawel eich meddwl, gan fod pob un o’n moch yn cael ei eni a’i fagu ar ein ffermydd bychan ni ac yn cael y rhyddid i fyw yn naturiol, bodlon a hapus.



Bwyd Lleol a blas “go iawn”

 

 

Pob tro y byddwch yn bwyta cynnyrch TRAED MOCH byddwch yn siwr fod y cig yn wirioneddol leol. Ni sydd yn aredig y tir… yn hau yr hadau… yn gofalu, ac yn cynaeafu’r grawn a’r llysiau, sydd yn borthiant maethlon a iach i’n anifeiliaid, a heb ddim deunydd GM yn agos iddo.

Wedi cael y cig yn ol o’r lladd-dy byddwn yn ei drin a’i baratoi yn ofalus ar gyfer anghenion ein cwsmeriaid. Gan ein bod yn rheoli’r broses yn ofalus o’r dechrau i’r diwedd, gwyddom fod y blas yn berffaith bob tro. Y mae anifeiliaid sydd wedi ei trin yn garedig ac wedi eu bwydo yn dda yn blasu yn llawer gwell.

Ers cyn cof y mae Pwllheli wedi bod yn farchnad enwog i ardal Llyn ac Eifionydd ar gyfer pob math o gynnyrch ac anifeiliaid yn enwedig moch. Yr ydym yn falch o’r traddodiad hir o ofalu am foch sydd gennym - rhywbeth na all neb ei ddwyn oddi arnym.

Nid ydym yn gor-fwydo ein moch ni er mwyn eu cael yn barod yn rhy ifanc, byddwn yn gadael i’r perchyll ddyfnu oddi ar yr hychod pan y mae nhw yn barod i wneud hynny. Yna byddant yn treulio gweddill eu hoes yn tyrchu a chwilio am wreiddiau ac yn cael ei pesgi ar y grawn a dyfwyd yn arbennig ar eu cyfer.


Yn yr Adran hon o'n gwefan cewch hefyd ragor o wybodaeth am y canlynol:-

  • Lleoliad
  • Barn Cwsmeriaid
  • Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (FAQ)
  • Prisio


Diolch am ymweld â'n gwefan, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau. Os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.

Cynnyrch Safon Uchel Traddodiadol - Cwmni Cig Llyn

  • Hafan
  • Traed Moch
  • Newyddion/Cynigion
  • Siop
  • Rhostio Mochyn
  • Cysylltiadau
Quick Search

Chwilio

Traed Moch

Pwy ydym ni / Beth yr ydym yn ei wneud

Lleoliad


Barn Cwsmeriaid

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (FAQ)

Prisio


  • Traed Moch
    Penrhynydyn
    Rhydyclafdy
    Pwllheli
    Gwynedd

    [t] 01758 740 817
    [e] post@traedmoch.com
  • English
  • Hafan
  • Traed Moch
  • Newyddion/Cynigion
  • Siop
  • Rhostio Mochyn
  • Cysylltiadau

Hawlfraint(c) 2008 Traed Moch ~ Dyluniwyd gan Delwedd