Newyddion
-

Newyddion
Dyma'r newyddion diweddaraf o Traed Moch.
Digwyddiadau Mai/Mehefin 2009
Bydd ein selsig glwten rydd ar gael yn ein stondin yn y 'Llyn Seafood Festival, Pwllheli ' y penwythnos hon, 23/24 o Fai.
Byddwn yn mynychu y canlynol yn ystod Mai a Mehefin 2009:
Sul Mai 24 ~ Beaumaris Summer Market, Castle Square 10 - 3pm
Sad/Sul Mai 23 & 24th ~ Llyn Seafood Festival, Pwllheli
Mehefin 5, 6, 7 ~ Woodfest, St Asaph
Newyddion Mai 2009
Rydym erbyn hyn yn gyflenwyr i'r bwytai isod:
- Plas Bodegroes Pwllheli
- Y Beuno Hotel, Clynnogfawr
- Gwesty Tŷ Newydd Aberdaron
Mae cynnyrch Traed Moch, gan gynnwys ein cig moch cartref, blasus, yn awr ar gael yn siop cigydd A Williams yn Edern, yn ogystal â Swyddfa bôst Morfa Nefyn a Londis Clynnogfawr.
Rhagfyr 2008
Hamperi Traed Moch ar gael Nawr - cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Tachwedd 2008
Porc Ffres TRAED MOCH , Enillwyr Arian yn y Gwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2008/09 .
Mae'r gwobrau yn adnabod ansawdd, cyfnewidiad a rhagoriaeth yn y diwydiant bwyd a diod Cymreig, gyda mwy na 500 o gynhyrchion a gwasanaethau yn cael eu barnu pob blwyddyn.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mwy o newydd da! Mae cynnyrch Traed Moch, gan gynnwys ein cig moch cartref, blasus, yn awr ar gael yn y post a'r siop leol yn Efailnewydd ger Pwllheli; yn siop Londis, Llanbedrog; ac yn Spar Abersoch. Rydym yn credu bod cefnogi siopau a thafarndai gwledig, sy'n rhan mor bwysig o'n cymunedau gwledig, yn hanfodol.
Yn bresennol, rydym yn mynychu marchnad fferm Porthaethwy ar drydydd dydd Sadwrn y mis. Bellach, mae gennym griw o gwsmeriaid triw iawn o bob cwr o Ogledd Cymru, Canolbarth Lloegr, a hyd yn oed yr Alban, sy'n dod yn unswydd i weld a phrynu ein cynnyrch - ac mae'n tyfu.
Byddwn yn gwerthu ein cynnyrch yn y babell grefftau yn Sioe Môn ac yn dangos/cystadlu gydag ein da byw.
Byddwn eto yn Ŵyl Wystrys a Bwydydd y Môr Ynys Môn ym mis Hydref, ble y daethom yn gyntaf am ein selsig blwyddyn ddiwethaf.

Rhai misoedd yn ôl buom ar raglan amaethyddiaeth S4C, Ffermio, ac ar Blas, rhaglen fwyd Radio Cymru, lle daethom yn gyntaf ym marn y beirniaid gydag ein cig moch. Ar hyn o bryd maent yn recordio eto yn barod am sioe blwyddyn yma. Rydym hefyd wedi ymddangos ar sioe S4C, Popeth yn Wyrdd.
Cofiwch ei bod yn bosib rhewi ein cynnyrch i gyd. Beth am roi cynnig ar becyn rhewgell neu hanner mochyn? Cysylltwch â ni am fanylion. Cysylltwch â ni hefyd i roi eich barn ar ein cynnyrch (yn dda neu'n ddrwg!). Ffoniwch 01758 740817 neu 07889 929639 i archebu, ac fe ymatebwn i bob ymholiad cyn gynted â phosib.
Yn yr Adran hon o'n gwefan cewch hefyd ragor o wybodaeth am y canlynol:-
Diolch am ymweld â'n gwefan, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau. Os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.

Newyddion
- Traed Moch
Penrhynydyn
Rhydyclafdy
Pwllheli
Gwynedd
[t] 01758 740 817
[e] post@traedmoch.com
