Cwestiynau a Ofynir yn Aml (FAQ)
Yma byddwn yn ychwanegu unrhyw gwestiynau a ofynnir yn aml (FAQ), yn ogystal ag atebion i'r cwestiynau hynny.
Pam “Cynnyrch cig moch a phorc o'r ansawdd gorau"?
Yn TRAED MOCH, pob tro rydych yn bwyta ein cynnyrch gallwch fod yn sicr fod y cig yn bur lleol. Caiff ein moch eu geni a'u magu gartref, cant eu bwydo â'r grawn a'r gwreiddlysiau gorau a dyfwn ni gartref. Gadewn i'r moch bach ddiddyfnu eu hunain oddi wrth yr hychod yn eu hamser eu hunain. Yna cant dreulio gweddill eu hoes yn crwydro a thyrchu a phorthi ar y grawn gaiff ei dyfu'n arbennig ar eu cyfer.
A ydych chwi yn gwybod beth ydi gwir darddiad eich cig moch, selsig a phorc? A ydych chwi yn gwybod sut y magwyd a sut fywyd gafodd y mochyn cyn cyrraedd y lladd-dy?
Pan yn prynu ein cynnyrch byddwch yn dawel eich meddwl, gan fod pob un o’n moch yn cael ei eni a’i fagu ar ein ffermydd bychan ni ac yn cael y rhyddid i fyw yn naturiol, bodlon a hapus.
Yn yr Adran hon o'n gwefan cewch hefyd ragor o wybodaeth am y canlynol:-
Diolch am ymweld â'n gwefan, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau. Os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.

Rhostio Mochyn
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (FAQ)
Traed Moch
Penrhynydyn
Rhydyclafdy
Pwllheli
Gwynedd
[t] 01758 740 556
[e] post@traedmoch.com
