Cig Moch + Gamwn
-

Cig Moch + Gamwn
“Cig moch a chynnyrch porc o’r ansawdd uchaf!”
Siop
Yn TRAED MOCH, caiff ein moch eu geni a'u magu gartref, cant eu bwydo â'r grawn a'r gwreiddlysiau gorau a dyfwn ni gartref. Mae pob mochyn wedi cael rhyddid i fyw'n naturiol, yn fodlon a hapus a gwyddwn o brofiad fod blas llawer gwell ar anifeiliaid sy'n cael eu bwydo'n dda ac sy'n cael gofal caredig.
“Cynnyrch cig moch a phorc o'r ansawdd gorau"
Yn TRAED MOCH, pob tro rydych yn bwyta ein cynnyrch gallwch fod yn sicr fod y cig yn bur lleol. Caiff ein moch eu geni a'u magu gartref, cant eu bwydo â'r grawn a'r gwreiddlysiau gorau a dyfwn ni gartref. Gadewn i'r moch bach ddiddyfnu eu hunain oddi wrth yr hychod yn eu hamser eu hunain. Yna cant dreulio gweddill eu hoes yn crwydro a thyrchu a phorthi ar y grawn gaiff ei dyfu'n arbennig ar eu cyfer.
Yn yr Adran hon o'n gwefan cewch hefyd ragor o wybodaeth am y canlynol:-
Diolch am ymweld â'n gwefan, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau. Os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.

Siop
- Traed Moch
Penrhynydyn
Rhydyclafdy
Pwllheli
Gwynedd
[t] 01758 740 556
[e] post@traedmoch.com
