“Cig moch a chynnyrch porc o’r ansawdd uchaf!”
Y mae anifeiliaid TRAED MOCH wedi eu geni a’u magu adref a’i pesgi gyda’r grawn a’r llysiau gorau gennym ni.
|
Byddwn yn Marchnad Ffermwyr Llanberis ar ddydd Gwener Mawrth 21, 2008. Hefyd byddwn yn Glasfryn ar ddydd Sadwrn Mawrth 22, 2008. Erbyn hyn y mae gennym gwsmeriaid ffyddlon iawn led-led y Gogledd sydd yn dystion i safon ardderchog ein cynnyrch. Mwy o newyddion da! Mae’n werth cefnogi y “siopau bach” cefn gwlad sydd yn cyfranu gymaint i’n cymunedau gwledig. Erbyn hyn mae ein selsig a chig moch yn ogystal a byrgyrs porc blasus i’w cael yn Post Efailnewydd ac yn Londis Llanbedrog ac Y Warren yn Abersoch. Cofiwch ein bod yn cynnig gwasanaeth anfon am ddim ar archebion gwerth £50 yng Ngwynedd a Mon a chofiwch hefyd fod modd rhewi pob mymryn o’n cynnyrch. Beth am hamper neu hanner mochyn i’w rewi? Cysylltwch am fanylion. Cysylltwch hefyd gyda eich sylwadau (da neu ddrwg!) Mae’n braf derbyn adborth.I archebu yn gyflym ffoniwch 01758-740817 gadewch neges a byddwn yn ol atoch cyn gynted a phosib. Y mae gennym gynlluniau i ail wampio ein gwefan yn fuan, nifer wedi dwyn sylw, y byddai yn syniad da i ni gael tudalen i gynnwys prisiau a ffurflen archebu. |
Bwyd gonest
A ydych chwi yn gwybod beth ydi gwir darddiad eich cig moch, selsig a phorc?
A ydych chwi yn gwybod sut y magwyd a sut fywyd gafodd y mochyn cyn cyrraedd y lladd-dy?
Pan yn prynu ein cynnyrch byddwch yn dawel eich meddwl, gan fod pob un o’n moch yn cael ei eni a’i fagu ar ein ffermydd bychan ni ac yn cael y rhyddid i fyw yn naturiol, bodlon a hapus.
Bwyd Lleol a blas “go iawn”
Pob tro y byddwch yn bwyta cynnyrch TRAED MOCH byddwch yn siwr fod y cig yn wirioneddol leol.
Ni sydd yn aredig y tir… yn hau yr hadau… yn gofalu, ac yn cynaeafu’r grawn a’r llysiau,
sydd yn borthiant maethlon a iach i’n anifeiliaid, a heb ddim deunydd GM yn agos iddo.
Wedi cael y cig yn ol o’r lladd-dy byddwn yn ei drin a’i baratoi yn ofalus ar gyfer anghenion ein cwsmeriaid. Gan ein bod yn rheoli’r broses yn ofalus o’r dechrau i’r diwedd, gwyddom fod y blas yn berffaith bob tro. Y mae anifeiliaid sydd wedi ei trin yn garedig ac wedi eu bwydo yn dda yn blasu yn llawer gwell.
Ers cyn cof y mae Pwllheli wedi bod yn farchnad enwog i ardal Llyn ac Eifionydd ar gyfer pob math o gynnyrch ac anifeiliaid yn enwedig moch. Yr ydym yn falch o’r traddodiad hir o ofalu am foch sydd gennym - rhywbeth na all neb ei ddwyn oddi arnym.
Nid ydym yn gor-fwydo ein moch ni er mwyn eu cael yn barod yn rhy ifanc, byddwn yn gadael i’r perchyll ddyfnu oddi ar yr hychod pan y mae nhw yn barod i wneud hynny. Yna byddant yn treulio gweddill eu hoes yn tyrchu a chwilio am wreiddiau ac yn cael ei pesgi ar y grawn a dyfwyd yn arbennig ar eu cyfer.
